Location:- Based in South Wales, working from home predominantly and on-site locations, shared workspace available in Cardiff, Swansea, Barry and Newport.
Starting salary:- Between £32,000 - £36,000, plus car allowance, subject to experience (based on 30 hours/week)
Working arrangements:- 30 hours per week, allowing flexible working.
* Occasional evening work, weekend days and overnight stays away from home with advance notice.
Reporting to:- Development Manager
Contract:– This is a fixed term contract for 2 years from commencement, with an intention to make it permanent, subject to successful performance and the growth of the Society’s business.
About Us:
Ynni Teg Cyf. (Fair Energy Ltd) is a community benefit society whose primary object is to develop renewable energy projects for the benefit of communities in Wales.
Our mission is to become the pan-Wales developer of community-owned clean energy infrastructure in Wales, working with local organisations, public agencies and commercial partners to enable communities to take greater control of our energy for a more resilient Wales.
We aim to achieve this mission by –
* Developing renewable energy assets that provide opportunities for local ownership, surplus revenues for community benefit funds and, where feasible, reduced long-term costs to local consumers.
* Providing support to other community energy organisations in Wales to develop their projects either as mentors or through our consultancy services.
* Promoting the growth of the community energy sector in association with Community Energy Wales [CEW], public and third sector agencies.
We are developing revenue-generating assets to enable us to become increasingly financially self-sustaining and growing the capacity and expertise of our professional team, thus enabling us to offer a low-cost practical support service to others as part of our community benefit aims. The intended outcome being a significant increase in the amount of community-owned energy in Wales.
Core Purpose of the post:
This role is central to the delivery of community-owned, building-connected low-carbon energy projects across Wales. Focusing primarily on rooftop solar PV, battery storage, electric vehicle charging and low-carbon heat technologies, you will oversee projects from initial concept and feasibility through to design, procurement, construction, commissioning and operational handover.
You will work within a small team and will be responsible for coordinating all aspects of project planning and delivery, including any necessary building consents, technical design, utility mains connection, procurement of installation/specialist services, contract administration, and client relations. The role requires a practical, diligent and collaborative approach, balancing technical, commercial, practical, client and community relationship considerations to ensure successful project outcomes. The postholder will need to be confident, well organized and a clear communicator.
This is an exciting opportunity to help shape the future of community energy in Wales and support the transition to a low-carbon energy system that works for everyone.
The Project Manager’s primary responsibilities will be to –
* Lead the delivery of low-carbon technology projects from feasibility through to commissioning and operational handover.
* Manage a pipeline of projects of varying scales, budgets, resources and risks to ensure projects are delivered safely, on time and within budget (installation costs typically ranging from £10k to c.£300k).
* Oversee project development activities including site assessments, technical surveys, grid connection applications (G98/G99) and securing any necessary statutory consents.
* Procure and manage contractors, suppliers and professional services, ensuring cost-effective delivery and value for money.
* Monitor project progress, milestones and expenditure, providing regular reports to the Development Manager and other stakeholders, as required.
* Maintain project contracts, governance and documentation, ensuring appropriate quality assurance and record keeping throughout the project lifecycle.
* Coordinate commissioning, testing and operational handover, ensuring all contractual, technical and regulatory requirements are met.
* Support the monitoring and evaluation of newly installed renewable energy / low-carbon technologies.
* Ensure compliance with relevant health and safety, environmental, technical and regulatory requirements.
Person Specification
Essential:
* Experience of planning and managing physical construction or services installations projects from development through to delivery and completion
* Experience of managing project budgets, programmes, contractors and suppliers
* Experience of working with a range of project parties, including client stakeholder organisations, service providers, end customers, and statutory bodies.
* Strong organisational skills and the ability to manage multiple projects and priorities
* Excellent written and verbal communication skills
* Ability to work independently and as part of a team
* Holding relevant recognised technical and/or project management qualifications.
* Proficiency in Microsoft Office applications, particularly Excel and Word
* Genuine interest in renewable energy, sustainability and community energy
* Full UK driving licence, own car, and willingness to travel for work purposes within Wales
Desirable:
* Understanding of renewable energy and low-carbon technologies, particularly solar PV systems
* Experience of delivering renewable energy or low-carbon technology projects
* Knowledge of grid connection processes, including G98 and G99 applications
* Experience of working with community organisations, social enterprises or community energy groups
* Knowledge of development control, building regulations, other permitting and regulatory requirements for renewable energy projects
* Ability to communicate through the medium of Welsh
How to Apply?
If you want to apply for this post, please supply your CV and a personal statement (2 pages max) outlining why you believe you are the right person for this role.
The deadline for your application is the 5pm on Monday 27th July. Please mail your application.
In person interviews for shortlisted applicants are expected to be held on 5th, 6th, 11th and 12th August.
Rheolwr Prosiect – Systemau ynni adnewyddadwy sy’n gysylltiedig ag adeiladau
Lleoliad:- Lleolir y swydd yn Ne Cymru, gan weithio o gartref yn bennaf neu mewn swyddfeydd a rennir yng Nghaerdydd, Abertawe, Barry neu Chasnewydd, ac ar leoliad.
Cyflog dechreuol: £32,000 - £36,000, ynghyd a lwfans car, yn ol profiad. (mae hyn yn seiliedig ar 30 awr yr wythnos)
Trefniadau gwaith: 30 awr yr wythnos, i ganiatau gweithio’n hyblyg.
Bydd angen gweithio gyda’r hwyr, neu ar y penwythnos, yn achlysurol. Bydd angen aros dros nos oddi cartref yn achlysurol gyda rhybydd o flaen llaw.
Yn adrodd i: Rheolwr Datblygu
Cytundeb: Mae hwn yn gytuneb tymor penodol am ddwy flynedd, gyda’r bwriad o’i wneud yn barhaol, yn ddibynnol ar berfformiad llwydiannus a thwf busnes y Gymdeithas.
Amdanom ni:
Mae Ynni Teg Cyf. yn gymdeithas er budd y gymuned, wedi’i leoli yng Nghymru. Ein prif amcan yw i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy er budd cymunedau yng Nghymru.
Ein nod yw i fod yn ddatblygwr isadeiledd ynni glân sydd yn eiddo i gymunedau ar draws Cymru, gan gyd-weithio gyda mudiadau lleol, asiantaethau cyhoeddus a phartneriaid masnachol er mwyn galluogi cymunediau i gael mwy o reolaeth ar ein ynni, er mwyn creu Cymru mwy gwydn.
Rydym yn bwriadu cyflawni’r nod hwn drwy –
Datblygu asedau ynni adnewyddadwy sy’n cynnig cyfleoedd ar gyfer perchnogaeth leol, gwarged cyllidol ar gyfer cronfeydd er budd cymunedol, a, ble mae hynny yn ymarferol, gostyngiad mewn costau tymor-hir ar gyfer defnyddwyr.
Darparu cefnogaeth i fudiadau ynni cymunedol eraill yng Nghymru er mwyn galluogi nhw i ddatblygu eu prosiectau eu hunain, unai fel mentoriaid neu drwy ein gwasanaethau ymgynghoriaeth.
Hybu twf y sector ynni cymunedol ynghyd a Ynni Cymunedol Cymru (YCC), sector cyhoeddus a trydydd sector.
Rydym yn datblygu asedau sy’n creu cyllid er mwyn galluogi ni i fod yn fwyfwy hunangynhaliol, tra hefyd yn ychwanegu at arbenigedd ein tîm proffesiynol er mwyn i ni allu cynnig gwasanaeth ymarferol a chefnogol ar gost isel fel rhan o’n nod budd cymunedol.
Yr hyn rydym yn anelu tuag ato yw twf sylweddol mewn ynni sydd yn eiddo i’r gymuned yng Nghymru.
Amcan craidd y swydd:
Mae’r swydd hon yn ganolog i allu darparu prosiectau ynni carbon-isel sy’n gysylltiedig ag adeiladau ac sy’n eiddo i gymunedau lleol ar draws Cymru. Gan ganolbwyntio yn bennaf ar solar pv ar ben to, batrïau, gwefru ceir trydan a thechnoleg gwres carbon-isel, fe fyddwch yn goruchwylio prosiectau o gysyniad cychwynnol a dichonolrwydd, hyd at gynllunio, caffaeliad, adeiladwaith, comisiynu a throsglwyddiad gweithredol.
Byddwch yn aelod o dîm bychan ac fe fyddwch yn gyfrifol am gydlynu holl elfennau cynllunio a chyflwyno’r prosiect, gan gynnwys unrhyw ganiatâd cynllunio angenrheidiol, cynlluniau technegol, cysylltiadau gwasanaethau cyhoeddus, caffael gwasanaethau gosodiad arbenigol, gweinyddu cytundebau a rheoli’r berthynas gyda chleientiaid. Mae angen bod yn ddiwyd, ymarferol a chydweithredol a bydd angen y gallu i gydbwyso ystyriaethau technegol, masnachol, ymarferol, a’r berthynas gyda chleientiaid a’r gymuned er mwyn sicrhau llwyddiant y prosiect. Fe fydd angen i ddeiliad y swydd fod yn hyderus, trefnus ac yn gallu cyfathrebu yn glir.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu llunio dyfodol ynni cymunedol yng Nghymru ac i helpu cynnal y trawsnewidiad i system ynni carbon-isel sy’n gweithio i bawb.
Prif ddyletswyddau’r Rheolwr Prosiect:
arwain trosglwyddiad prosiectau technoleg carbon-isel o astudiaethau dichonoldeb hyd at gomisiynu a throsglwyddiad gweithredol.
Rheoli nifer o brosiectau ar raddfeydd, cyllidebau, adnoddau a risgiau gwahanol er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael eu cyflawni yn ddiogel, ar amser, ac o ffewn y gyllideb. (bydd gosodiadau yn amrywio rhwng £10K a c.£300K ar gyfartaledd)
Goruchwylio gweithgareddau datblygu’r prosiect, gan gynnwys asesiadau o’r lleoliadau, arolygon technegol, ceisiadau i gysylltu â’r Grid Cenedlaethol (G98/G99) ynghyd a sicrhau unrhyw gysyniadau statudol.
Caffael a rheoli contractwyr, cyflenwyr a gwasanaethau proffesiynol gan sicrhau trosglwyddiad cost effeithiol a gwerth yr arian a dalwyd.
Monitro cynnydd, cerrig milltir a gwariant y prosiect, darparu adroddiadau rheolaidd i’r Rheolwr Datblygu a rhanddeiliaid eraill fel bod angen.
Cadw cytundebau a dogfennau’r prosiect yn ofalus gan sicrhau ansawdd a chadw cofnodion addas yn ystod cylchred oes y prosiect.
Cydlynu comisiynu, profion, a throsglwyddiad gweithredol, gan sicrhau bod holl ofynion cytundebol, technegol a rheoliadol yn cael eu bodloni.
Cynorthwyo monitro a gwerthuso technoleg ynni adnewyddadwy / carbon-isel unwaith mae wedi’i osod.
Sicrhau cydymffurfiaeth a gofynion rheolaethol perthnasol iechyd a diogelwch, amgylcheddol a thechnegol.
Manyleb Person
Hanfodol:
Profiad cynllunio a rheoli prosiectau gwaith adeiladu neu osodiadau gwasanaethau, o ddatblygiad y syniad hyd at drosglwyddo a chwblhau’r prosiect.
Profiad rheoli cyllidebau, amserlenni, contractwyr a chyflenwyr.
Profiad cyd-weithio gydag ystod eang o bartion prosiect, gan gynnwys mudiadau rhanddeliaid cleientiaid, darparwyr gwasanaethau, cyrff statudol a chwsmeriaid.
Sgiliau trefnu cryf a’r gallu i reoli nifer o brosiectau ar yr un pryd.
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ysgrifenedig
Gallu gweithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm
Cymwysterau technegol a/neu reoli prosiectau priodol a pherthnasol
Profiad gweithio gyda rhaglenni Microsoft Office, yn arbennig Excel a Word
Diddordeb gwirioneddol mewn ynni adnewyddadwy, cynaliadwyedd ac ynni cymunedol.
Trwydded yrru lawn y DU, a pharodrwydd i deithio o fewn Cymru ar gyfer dibenion gwaith
Dymunol:
Dealltwriaeth o ynni adnewyddadwy a thechnoleg carbon-isel, yn arbennig systemau solar PV.
Profiad cyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy neu garbon-isel
Gwybodaeth am brosesau cysylltiadau grid, gan gynnwys rhaglenni G98 a G99
Profiad gweithio gyda mudiadau cymunedol, mentrau cymdeithasol neu grwpiau ynni cymunedol.
Gwybodaeth am reolaethau datblygiadau, rheoliadau adeiladu, a gofyniadau caniatau a rheoleiddio ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy
Gallu cyfathrebu yn Gymraeg
Sut i wneud Cais?
Os ydych chi eisiau gwneud cais am y swydd hon, rhowch eich CV a datganiad personol (2 tudalen uchafswm) sy'n egluro pam rydych chi'n credu eich bod chi'n berson cywir ar gyfer y rôl hon.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer eich cais am 5pm ar ddydd Llun 27 Gorffennaf. Anfonwch eich cais drwy'r post.
Disgwylir cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb ar gyfer ymgeiswyr yn y rhestr fer ar 5ydd, 6ed, 11eg a 12fed Awst
Salary description
£32000.00 - £36000.00 per year
